menu title
menu bottom

online shop title
menu bottom

top
credit cards
bottom

top
Site Design
Pop2 Internet Ltd
bottom

top white
Edwards o Gonwy


Cigydd traddodiadol yw Edwards o Gonwy sydd wedi ei leoli yn nhref hanesyddol Conwy. Mab fferm o Lanrwst yw Ieuan Edwards. Gweithiodd Ieuan fel prentis mewn siop gig yn Llanrwst. Yna, aeth yn ei flaen i gyflawni cyrsiau arbenigol yn yr Y Swisdir a'r Iseldiroedd.

Agorodd Ieuan ei siop gig gyntaf pan oedd yn 20 oed ac yn 2004 fe aeth yn ei flaen i agor ffatri selsig. Erbyn hyn mae'n cyflogi tua 40 o weithwyr. Mae llwyddiant Ieuan wedi ei seilio ar ddarparu a gwerthu cig o safon yn unig.


shop
 

Gwobrau

awards
Ieuan yn derbyn tlws y Llys Gennad "Gwir Flas" gan y Gweinidog Mr Carwyn Jones

Ym mis Tachwedd 2005 fe dderbynniodd Ieuan y fraint o gael ei enwi yn Lys Gennad bwyd Cymru y “Gwir Flas”.

Maent hefyd wedi llwyddo i gael tystysgrif arbennig y "Q Guild" dros gyfnod o 13 mlynedd. Bu Ieuan yn Gyfarwyddwr o'r "Q Guild Cyf" am ddwy flynedd yn ystod y cyfnod yma.

Hefyd yn 1994/95 a 2002 fe enillodd y siop wobr "Top Shop" yng Nghymru. Rydym hefyd wedi ennill cynifer o wobrau eraill, gan gynnwys:-

  • Pencampwriaeth Selsig Gogledd Cymru, hefyd Cymru gyfan.
  • Gwobrau aur ac arian yn Ewrop.
  • Gwobr Anturiaeth Comisiwn Cig Da 1998 & 2000, ac amryw o wobrau aur yn "Smithfield"
  • Gwobr aur 2002/3 "Gwir Flas" am y siop orau drwy Gymru, hefyd yn y flwyddyn ganlynol 2003/4.
 

Oen Y Glasdraeth

Yr ydym hefyd yn darparu cig Oen y Glasdraeth o ardaloedd hallt Conwy, Harlech a Phortmeirion hefyd Ynys Mon. Danteithfwyd unigryw ydyw, sy'n cael ei alw gan y Ffrancwyr yn "d'Agneau Pre Salé". Mae'r wyn yn pori ar y glaswellt sydd yn aml wedi ei orchuddio a dwr hallt y mor. Dulliau traddodiadol ac organig o ffermio sy'n cael ei defnyddio. Mae'r wyn felly'n cael deiat naturiol gan gynnwys glaswellt cynhenid "Sparta".

Mae Oen y Glasdraeth ar gael rhwng mis Mehefin a mis Medi.
Un o gefnogwyr brwd oen y glasdraeth yw’r cogydd enwog Rick Stein.


shop
shop2


Ein Staff
Mae rhan helaeth o’r tim wedi bod gyda’r cwmni ers blynyddedd bellach, yn eu plith mae Dave Malloy sef rheolwr cyffredinol y siop. Mae Dave wedi bod gyda ni ers y dechrau. Mae'n gyfrifol am ddatblygu cynnyrch newydd, marchnata lleol, paratoi'r cig a sicrhau safonau.

Yn ogystal a chigyddion profiadol rydym hefyd yn cyflogi cogyddion sy'n cydweithio'n agos a'r cigyddion er mwyn datblygu syniadau newydd.

 

bottom white